The Jam’d
Dydd Gwener | Prif Lwyfan
Gan ymddangos yn Big Tribute am y tro cyntaf, The Jam’d bellach yw’r deyrnged fwyaf adnabyddus a mwyaf poblogaidd yn y DU i berfformiad byw a sain The Jam, ac maent wedi ymrwymo’n llwyr i roi perfformiad bythgofiadwy, dilys gyda’r holl egni, angerdd ac arddull y “Woking 3”.
Fel cerddorion proffesiynol teithiol llawn amser, a ffans enfawr The Jam, nid yw’r band yn “ceisio bod” nac yn “esgus bod” The Jam, ond yn hytrach yn cynnal perfformiad o’r galon a’r enaid, gan dynnu ar eu holl atgofion, eu profiadau, a’u cariad at fand mwya’r wlad yn eu dydd.
Ticket Info 2024
What people are saying about the Big Tribute Festival
(Rating of 4.9 / 5 from over 700 Facebook reviews)