Gwybodaeth am docynnau ac ad-daliadau 2020
Gohirir Gŵyl y Deyrnged Fawr tan 2021 oherwydd pandemig Covid-19.
Bydd pob tocyn 2020 yn ddilys ar gyfer gŵyl 2021 (27 – 29 Awst 2021). Byddwn yn anrhydeddu ystodau oedran y tocynnau yn 2021 fel y maent ym mis Awst 2020.
Nid yw archebion ar-lein / ffôn sydd wedi talu am bostio wedi’u hanfon allan eto. Fe’u cedwir yn ddiogel yn y swyddfa docynnau a’u postio ddechrau haf 2021.
Os ydych chi eisoes wedi casglu’ch tocynnau yn bersonol, yna cadwch nhw’n ddiogel gan na fydd rhai dyblyg yn cael eu cyhoeddi as byddant yn cael eu colli.
Ad-daliadau Tocynnau
Bydd deiliaid tocynnau na allant / na hoffent fynychu’r digwyddiad y flwyddyn nesaf yn gallu cael ad-daliad llawn (heb unrhyw ffioedd archebu). Bydd ad-daliadau ar gael o’r pwynt prynu:
• o Ganolfan Gelf Aberystwyth ar gyfer pob pryniant ar-lein ynghyd â thocynnau a brynwyd dros y ffôn neu’n bersonol o Swyddfa Docynnau Canolfan y Celfyddydau (artstaff@aber.ac.uk / 01970 623232). Ar hyn o bryd maent yn gweithio o bell ac yn ateb ymholiadau ffôn / e-bost yn unig rhwng 10am a 4.30pm (Llun – Gwener).
• o Spellbound ar gyfer yr holl docynnau a brynwyd yn y siop.
Sylwch: dim ond ar ôl i Ganolfan Gelf Aberystwyth a Spellbound Ballon and Party Shop agor eto i’r cyhoedd y bydd ad-daliadau ar gael. Mae hyn oherwydd bod angen i staff fod yn bresennol yn yr adeilad i gael mynediad at eu peiriannau cardiau i brosesu ad-daliadau. Byddwn yn rhoi gwybod pryd fydd hyn cyn gynted ag y bydd dyddiad wedi’i gadarnhau.
Bydd ad-daliadau ar gael tan 1 Mai 2021.
Gwerthiant tocynnau 2021
Gan i holl docynnau penwythnos 2020 gael eu gwerthu, bydd unrhyw docynnau a ad-dalwyd ar gael i’w gwerthu’n gyffredinol yn 2021 (dyddiad i’w gadarnhau).
Bydd tocynnau dydd ar werth am y tro cyntaf ym mis Mehefin 2021.
Trefn 2021
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar drosglwyddo rhestr 2020 i 2021 cyn gynted â phosib. Ar ôl eu cwblhau, byddwn yn cadarnhau’r manylion ar wefan Big Tribute a thrwy gyfryngau cymdeithasol. Gwneir hyn ymhell cyn y dyddiad cau ar gyfer ad-daliad.


Gwybodaeth am Docynnau ac Ad-daliadau 2020
Beth mae pobl yn ei ddweud am Ŵyl Big Tribute
(4.9 / 5 gan bron i 500 o adolygiadau Facebook)