BLONDIED
Dydd Sul | Prif Lwyfan
Ffurfiwyd Blondied 15 mlynedd yn ôl, o ganlyniad i ymddangosiad gan y prif leisydd, Michelle Hendriks ar sioe ITV ‘Stars and Their Doubles’. Dewiswyd Michelle o blith miloedd o ddyblau ac fe wnaeth ei pherfformiad gwych o ‘Sunday Girl’, ynghyd â’i thebygrwydd trawiadol i Debbie Harry, ennyn cymaint o ddiddordeb gan asiantau archebu a lleoliadau, fel mai’r cam rhesymegol nesaf i Michelle oedd ffurfio band teyrnged Blondie, i fodloni’r galw amlwg!
Mae aelodau band Blondied wedi teithio ymhell ac agos ac maent wedi gweithio mewn gwledydd ar draws y byd, gan gynnwys yr Almaen, Denmarc, Canada, Dubai, Rwsia a Japan.
Yn ogystal ac edrych yn union fel Debbie Harry, mae Michelle hefyd yn gallu efelychu llais unigryw Debbie yn berffaith wrth berfformio ei chaneuon. Mae yna lawer o newidiadau gwisgoedd yn y sioe, gan gynnwys sawl gwisg wedi’u modelu ar wisgoedd gwreiddiol Debbie Harry.
Yn ogystal â hyn, mae symudiadau ac ystumiau Michelle i’r dim, gan gludo’r gynulleidfa yn ôl mewn amser i gael cipolwg ar Blondie o gyfnod eiconig!


Ticket Info 2025
What people are saying about the Big Tribute Festival
(Rating of 4.9 / 5 from over 700 Facebook reviews)