Ultimate Elton & the Rocket Band
Dydd Sadwrn | Prif Lwyfan
Mae galw mawr am Ultimate Elton and The Rocket Band mewn gwyliau a theatrau ledled y DU a thu hwnt diolch i safon uchel o gerddoriaeth a phroffesiynoldeb, ynghyd â chaneuon anorchfygol Elton John.
Mae rhai artistiaid teyrnged yn edrych fel eu harwyr, rhai yn swnio fel eu harwyr. Mae Paul Bacon fel Elton John yn gwneud y ddau! Caewch eich llygaid ac ni fyddwch chi’n credu’ch clustiau, agorwch eich llygaid ac ni fyddwch chi’n eu credu nhw chwaith! Yn syml, nid oes teyrnged agosach i Syr Elton John.
Wedi’u sefydlu’n gyflym fel act deyrnged amlycaf Elton John yn Ewrop, mae Ultimate Elton amd The Rocket Band yn cyflwyno atgynhyrchiad hynod gywir o sioeau byw un o artistiaid mwyaf llwyddiannus a mwyaf poblogaidd cerddoriaeth bop.
Anodd credu bod 5 mlynedd ers i Ultimate Elton fod ar brif lwyfan Big Tribute ddiwethaf, ond rydyn ni’n gwybod y bydd yn werth yr aros!
.
Ticket Info 2024
What people are saying about the Big Tribute Festival
(Rating of 4.9 / 5 from over 700 Facebook reviews)