PRYNWCH TOCYNNAU YMA
Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau
Rydym bellach yn rheoli arwerthiant holl docynnau’r ŵyl ac NID drwy Ganolfan Gelfyddydau
Aberystwyth.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, yna anfonwch e-bost at
Tocynnau Digidol
Mae pob tocyn a brynir drwy’r wefan bellach yn docynnau digidol ac yn cael eu hanfon yn
uniongyrchol atoch drwy e-bost.
Dan 18 oed
Rhaid prynu pob tocyn dan 18 gyda thocyn oedolyn dilys. Mae manylion llawn ar gael YMA.
Tocynnau Dydd
Bydd y rhain ar werth ym mis Mehefin 2026 (dyddiad i’w gadarnhau)
PRISIAU TOCYNNAU 2026
Mae pob tocyn penwythnos yn cynnwys gwersylla pebyll yn y pris.
Gellir dewis y maes gwersylla penodol (Cyffredinol, Teulu/Tawel neu Hygyrch) wrth gyrraedd.
Noder, gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am gymhwysedd ar gyfer Gwersylla Hygyrch yma
Tocyn penwythnos i oedolion (18+) – £110
(Rhaid bod dros 18 oed ar neu cyn 28 Awst 2026)
Tocyn penwythnos person ifanc (13 – 17) – £45
(Rhaid bod o dan 18 oed ar neu cyn 28 Awst 2026)
Tocyn penwythnos plentyn (5-12) – £30
(Rhaid bod o dan 18 oed ar neu cyn 28 Awst 2026)
Tocyn penwythnos babanod (dan 5 oed) – Am ddim (tocyn yn ofynnol)
(Rhaid bod o dan 5 oed ar neu cyn 28 Awst 2026)
Mae rhain am ddim ond rhaid cael tocyn i bob person bach!
Cerbydau Llety (CLl) – £55
Mae angen dewis y safle (Cyffredinol, Teuluol / Tawel neu Hygyrch) adeg archebu.
DS Mae Cerbydau Llety yn Gartrefi Modur, Carafanau neu Bebyll Trelars YN UNIG.
Ni chaniateir i unrhyw gerbydau eraill aros yn yr ardal CLl.
Am fanylion llawn, ewch i’n tudalen Cerbydau Llety.
Tocynnau ychwanegol
Yn anffodus ni ellir ychwanegu unrhyw docynnau ychwanegol at archebion sy’n bodoli eisoes.


Beth mae pobl yn ei ddweud am Ŵyl Big Tribute
(4.9 / 5 gan mwy na 700 o adolygiadau Facebook)
