INXS GB
Dydd Gwener | Prif Lwyfan
Band arall yn ymddangos am y tro cyntaf yn Big Tribute yn 2025 wrth i ni roi croeso cynnes i INXS GB – The Ultimate INXS Tribute Experience!
Paratowch i gael eich cludo yn ôl mewn amser i oes drydanol roc a rôl wrth i INXS GB dalu teyrnged i’r band chwedlonol o Awstralia, INXS.
Dewch i weld atgynhyrchiad gwefreiddiol o ganeuon mwyaf poblogaidd INXS, o’r eiconig “Need You Tonight” a “Never Tear Us Apart” i’r ffefrynnau “New Sensation” a “Devil Inside.”
Mae ein casgliad dawnus o gerddorion profiadol yn cyfleu hanfod ac ysbryd INXS gyda manylrwydd ac angerdd heb ei ail. Ymgollwch yn y carisma heintus a’r presenoldeb llwyfan hudolus a wnaeth INXS yn ffenomen fyd-eang.
Mae INXS GB yn cyflwyno profiad byw pwerus a dilys, gan ail-greu’n ffyddlon y sain a’r arddull unigryw a gadarnhaodd le INXS yn hanes cerddoriaeth. P’un a ydych chi’n gefnogwr selog o sîn gerddoriaeth yr 80au, neu dim ond am fwynhau egni perfformiadau byw. Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu etifeddiaeth barhaus INXS a thalu teyrnged i’w cerddoriaeth oesol.


Ticket Info 2025
What people are saying about the Big Tribute Festival
(Rating of 4.9 / 5 from over 700 Facebook reviews)