Billy Joel UK
Dydd Sul | Prif Lwyfan
Rydym yn gyffrous i groesawu’r deyrnged wych hon i Billy Joel i ŵyl Big Tribute am y tro cyntaf erioed! Mae Gaz Jenkins wedi bod yn gweithio fel diddanwr proffesiynol ers graddio yn y coleg yn 1999. Mae ei yrfa wedi mynd ag ef ar draws y DU ac Ewrop.
Yn 2016, ymunodd Gaz â sioe deyrnged hiraf y DU – Trevor Chance’s Legends – lle bu’n hogi ei sgiliau fel gwesteiwr a chyflwynydd. Ac yntau wedi bod yn gefnogwr Billy Joel ers dros 30 mlynedd, roedd yn ddilyniant naturiol iddo ddatblygu teyrnged i un o arwyr ei blentyndod.
Gyda’i hyfforddiant yn y theatr, mae Gaz yn dod â thân ac angerdd y ‘Piano Man’ i’r llwyfan, ynghyd â gwisgoedd dilys a choreograffi a fydd yn gwneud i chi gredu eich bod wedi teithio yn ôl mewn amser i weld y crwt o’r Ynys Hir yn ei anterth.
Ticket Info 2024
What people are saying about the Big Tribute Festival
(Rating of 4.9 / 5 from over 700 Facebook reviews)