

Emma’s Crafty Kids
Rydym yn falch iawn o groesawu Emma a’i thîm yn ôl i Big Tribute, gan ddarparu ystod o weithgareddau crefft galw heibio, gweithdai ac offer a gemau cerddorol awyr agored i blant.
Byddant wrth law i helpu, i roi syniadau crefftus i chi ac i’ch croesawu â gwên. Bydd llawer o bethau gwych i’w gwneud a’u cymryd adref pan ymwelwch â’n pabell neu weithdai crefft galw heibio … a phan fyddwch chi’n teimlo’n egnïol, mae gemau awyr agored i’w hadeiladu, i arlunio arnynt ac i wneud cerddoriaeth â nhw – unwaith eto, oll wedi’u cynnwys ym mhris y tocyn!
Bydd pabell Crafty Kids ar agor rhwng 2pm a 6pm (ddydd Gwener) a 12pm a 6pm (ddydd Sadwrn a Sul).
Sylwer bod angen oedolyn cyfrifol gyda phob plentyn yn y pebyll crefft bob amser.


Gwybodaeth am Docynnau ac Ad-daliadau 2020
Beth mae pobl yn ei ddweud am Ŵyl Big Tribute
(4.9 / 5 gan bron i 500 o adolygiadau Facebook)